Pleidleisiau a Thrafodion - Y Cyfarfod Llawn


Lleoliad y cyfarfod:

Siambr Hywel - Tŷ Hywel

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 9 Gorffennaf 2025

Amser y cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/
15178


293

------

<AI1>

Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr Hywel, Tŷ Hywel ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

</AI1>

<AI2>

1       Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Dirprwy Lywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl cwestiwn 2.

</AI2>

<AI3>

2       Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Dechreuodd yr eitem am 14.28

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiwn 3 gan y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol. Gwahoddodd y Dirprwy Lywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl cwestiwn 2.

</AI3>

<AI4>

3       Cwestiynau Amserol

Dechreuodd yr eitem am 15.18

Atebwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar y cyhoeddiad y bydd 220 o swyddi yn cael eu dileu yng ngwaith cemegau Dow yn y Barri

</AI4>

<AI5>

4       Datganiadau 90 eiliad

Dechreuodd yr eitem am 15.24

Gwnaeth Hannah Blythyn ddatganiad ar - Trychineb mwyngloddio y Parlwr Du (4 Gorffennaf 1953) a’r gofeb yn Ffynnongroyw.

Gwnaeth Heledd Fychan ddatganiad ar -  Cofio’r canwr opera byd-enwog, Stuart Burrows.  

Gwnaeth Vaughan Gething ddatganiad ar - Jess Fishlock, y murlun cae chwarae yn y Sblot a thîm pêl-droed menywod Cymru.

Gwnaeth Rhun ap Iorwerth ddatgainiad ar - Tîm Ynys Môn yng Ngemau’r Ynysoedd – Orkney 2025 (12 i 18 Gorffennaf).

</AI5>

<AI6>

5       Cynnig i nodi'r adroddiad blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Senedd ar gyfer 2024–25

Dechreuodd yr eitem am 15.31

NDM8952 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi'r Adroddiad Blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Senedd ar gyfer y cyfnod 2024-25, yn unol â pharagraff 8(8) o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a osodwyd gerbron y Senedd ar 2 Gorffennaf 2025.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

</AI6>

<AI7>

6       Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad: Yr unfed adroddiad ar hugain i’r Chweched Senedd o dan Reol Sefydlog 22.9

Dechreuodd yr eitem am 15.51

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM8949 Hannah Blythyn (Delyn)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad— Yr Unfed Adroddiad ar Hugain i'r Chweched Senedd a osodwyd gerbron y Senedd ar 2 Gorffennaf 2025, yn unol â Rheol Sefydlog 22.9.

2. Yn cymeradwyo’r argymhelliad yn yr adroddiad.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

50

0

0

50

Derbyniwyd y cynnig.

</AI7>

<AI8>

7       Dadl ar ddeiseb: P-06-1525 Diogelu cymeriad unigryw Camlas Sir Fynwy a Brycheiniog ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol yng Nghymru

Dechreuodd yr eitem am 15.54

NDM8950 Carolyn Thomas (Gogledd Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi’r ddeiseb ‘P-06-1525 Diogelu cymeriad unigryw Camlas Sir Fynwy a Brycheiniog ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol yng Nghymru’ a gasglodd 14,016 o lofnodion.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

</AI8>

<AI9>

8       Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: Yr Economi Sylfaenol

Dechreuodd yr eitem am 15.54

NDM8951 Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar yr Economi Sylfaenol, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Ebrill 2025, ac y gosodwyd ymateb iddo gan Lywodraeth Cymru ar 2 Gorffennaf 2025.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

</AI9>

<AI10>

9       Dadl Plaid Cymru - Llywodraeth y DU

Dechreuodd yr eitem am 17.22

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM8953 Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn credu bod Llywodraeth Lafur y DU wedi gadael i lawr y rhai a'i rhoddodd mewn grym yn etholiad cyffredinol 2024, ac wedi methu cadw at yr addewidion a wnaed i bobl Cymru.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

24

0

26

50

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro Morgannwg)  
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
Yn cydnabod bod Llywodraeth y DU, yn ystod y flwyddyn ers yr Etholiad Cyffredinol, wedi dechrau dadwneud y difrod a achoswyd gan 14 mlynedd o gyni drwy ddarparu rhagor o gyllid a sicrwydd ariannol tymor hwy i Gymru i’w galluogi i gynllunio ac i gefnogi ei phobl.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

24

50

Derbyniwyd gwelliant 1.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod bod Llywodraeth y DU, yn ystod y flwyddyn ers yr Etholiad Cyffredinol, wedi dechrau dadwneud y difrod a achoswyd gan 14 mlynedd o gyni drwy ddarparu rhagor o gyllid a sicrwydd ariannol tymor hwy i Gymru i’w galluogi i gynllunio ac i gefnogi ei phobl.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

24

50

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.

</AI10>

<AI11>

10    Cyfnod pleidleisio

Dechreuodd yr eitem am 18.31

</AI11>

<AI12>

Crynodeb o Bleidleisiau

</AI12>

<AI13>

11    Dadl Fer

Dechreuodd yr eitem am 18.34

NDM8948 Janet Finch-Saunders (Aberconwy)

A ddylai Llywodraeth Cymru wahardd treillrwydo ar waelod y môr yng Nghymru?

</AI13>

<TRAILER_SECTION>

Daeth y cyfarfod i ben am 19.02

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 15 Gorffennaf 2025

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>